Yr Hen Iaith  By  cover art

Yr Hen Iaith

By: Yr Hen Iaith
  • Summary

  • Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.
    All rights reserved
    Show more Show less
Episodes
  • Pennod 40 - Dyneiddiaeth Gymreig
    May 9 2024
    Mae’r bennod hon yn cyflwyno pwnc a fydd yn ganolog i’r penodau nesaf hefyd, sef dyneiddiaeth yr unfed ganrif ar bymtheg. Gan fod gwrthryfel Glyndŵr wedi methu, nid oedd gan Gymru brifysgolion yn y cyfnod ac felly bu’n rhaid i’r Cymry breintieidig a oedd â digon o foddion i gael addysg prifysgol fentro y tu hwnt i ffiniau’u gwlad enedigol. Eglurwn ystyr y termau ‘dyneiddiaeth’ a’r ‘Dadeni Dysg’ (a nodi nad oedd neb yn eu defnyddio yn y cyfnod dan sylw!). Er bod llawer o ddyneiddwyr ar draws Ewrop yn canolbwyntio ar ‘aileni’ cyfoeth yr hen ieithoedd clasurol (Lladin a Groeg), esgorodd dyneiddiaeth ar duedd ieithyddol arall – un sydd o’r pwys mwyaf o safbwynt hanes y Gymraeg, sef awydd i fireinio’r Hen Iaith a sicrhau’i bod hi’n gyfrwng sy’n addas er mwyn trafod a throsglwyddo dysg o bob math. * * * Welsh Humanism This episode presents a subject which will be central to the next episodes as well – sixteenth-century humanism. Because Glyndŵr’s rebellion failed, Wales did not have its own universities at the time, and so the privileged Welshmen with enough resources to attain a university education had to travel beyond the borders of their native country. We explain the terms ‘humanism’ and the ‘Renaissance’ (and note that nobody used the Welsh equivalents of them in the period we’re discussing!). Although many humanists across Europe concentrated on ‘the rebirth’ of the wealth of classical languages (Latin and Greek), humanism gave rise to another linguistic tendency – one which is of the greatest importance from the point of view of the history of Welsh, namely a desire to perfect the Old Language and ensure that it is a medium fit for discussing and transmitting learning of every kind. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Branwen Jarvis, ‘Welsh Humanist Learning’ in R. Geraint Gruffydd (gol.), A guide to Welsh literature c.1530-1700 (1976) Gw. hefyd y gyfres o erthyglau cydymaith a gyhoeddir ar gyfer ‘Yr Hen Iaith’ yn Nation.Cymru (See also the series of companion articles published for ‘Yr Hen Iaith’ in Nation.Cymru).
    Show more Show less
    30 mins
  • Pennod 39 - Y Gymraeg a Byd Newydd Print
    Apr 25 2024
    Pennod 39 (cyfres 2, pennod 6) Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y datblygiad technolegol hollbwysig hwnnw, y wasg argraffu. O gofio mai trafod hanes llenyddiaeth Gymraeg yw nod y podlediad hwn, dylid gweld dyfodiad y cyfrwng hwn fel carreg filltir ryfeddol o drawsffurfiannol o safbwynt cynhyrchu a lledaenu llenyddiaeth. Argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf yn 1546, ac eglurwn y teitl-nad-yw’n deitl a roddir arno, sef Yn y Llyfr Hwn. Syr John Prys a oedd yn gyfrol am gynhyrchu’r gyfrol Gymraeg arloesol hon, ond nodwn ei fod yn gymeriad a oedd wedi helpu chwalu rhai o adnoddau llenyddol Cymru yn ogystal â bod yn gyfrifol am wthio’r iaith Gymraeg dros drothwy byd print. * * * The Welsh Language and the New World of Print This episode focuses on that all-important technological development, the printing press. Given that discussing the history of Welsh literature is this podcast’s aim, we should see the arrival of this medium as an incredibly transformative milestone as far as creating and disseminating literature is concerned. The first Welsh book was printed in 1546, and we explain the title-which-is-not-a-tile normally used in referring to it, Yn y Llyfr Hwn (‘In This Book’). Sir John Price was responsible for producing this landmark Welsh volume, but we note that he was a character who helped destroy some of Wales’ literary resources in addition to being responsible for pushing the Welsh language across the threshold of the world of print. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Graham C. G. Thomas, ‘From Manuscript to Print – II. Print’, yn R. Geraint Gruffydd (gol.), A Guide to Welsh Literature 1530-1700 (1997). - R. Geraint Gruffydd, ‘Yny lhyvyr hwnn (1546): the earliest Welsh printed book, Bulletin of the Board of Celtic Studies, 23.1 (Mai, 1969).
    Show more Show less
    37 mins
  • Pennod 38 - Alis Wen
    Apr 11 2024
    Pennod 38 (cyfres 2, pennod 5) Trafodwn fardd benywaidd hynod ddiddorol yn y benod hon – Alis ferch Gruffudd neu ‘Alis Wen’, a fu’n canu yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Dynion oedd beirdd proffesiynol y cyfnod, ond dysgodd Alis grefft barddoni a chyfansoddodd nifer o gerddi gan ddefnyddio un o’r hen fesurau caeth, yr englyn unodl uniawn. Mae’n debyg iawn mai ei thad, Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan oedd ei hathro barddol, a gwelwn fod ei pherthynas ungryw â’i thad yn bwnc dan sylw yn rhai o’i cherddi. Dyma lais barddol benywaidd prin sy’n amlygu teimladau gonest Cymraes am gariad, priodas a diswyliadau cymdeithasol. Er bod cymdeithas Cymru’r cyfnod yn ormesol o batrïarchaidd, gwelwn Alis yn protestio ac yn dymuno dilyn ei chalon yn hytrach nag ufuddhau i’r disgwyliadau hynny. Yn ogystal â mynegi’i barn a’i theimladau mewn modd di-flewyn-ar-dafod, mae’n gwneud hynny mewn modd rhyfeddol o ffraeth hefyd. * * * Alis Wen In this episode we discuss a remarkably interesting female poet –Alis ferch Gruffudd or ‘Alis Wen’, who composed poetry in the sixteenth century. Men were the professional poets in the period, but Alis learned the poetic art and composed a number of verses using one of the old strict metres, the englyn unodl union. It’s very likely that her father, Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan, was her bardic teacher, and we see that her unique relationship with her father is given attention in some of her poems. Here is a rare female poetic voice from the period which manifests a Welsh woman’s honest feelings about love, marriage and society’s expectations. Although Welsh society in the period was oppressively patriarchal, we see Alis protesting and expressing a desire to follow her own heart instead of submitting to those expectations. In addition to expressing her opinion and her feelings in a forthright manner, she also does that in a wonderfully witty way. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen Pellach / Further Reading: - Gwen Saunders Jones, Alis ferch Gruffudd a’r Traddodiad Barddol Benywaidd (2015). - Cathryn Charnell-White(gol.), Beirdd Ceridwen: Blodeugerdd Barddas o Ganu Menywod hyd tua 1800 (2005). - Katie Gramich a Catherine Brennan (goln.), Welsh Women’s Poetry 1460-2001: An Anthology (2003).
    Show more Show less
    41 mins

What listeners say about Yr Hen Iaith

Average customer ratings

Reviews - Please select the tabs below to change the source of reviews.