Am Waith Cymdeithasol Podcast Por Prifysgol Bangor arte de portada

Am Waith Cymdeithasol

Am Waith Cymdeithasol

De: Prifysgol Bangor
Escúchala gratis

Am Waith Cymdeithasol: cyfle i glywed a pharchu lleisiau gwahanol am faterion cyfredol sydd yn ymwneud a Waith Cymdeithasol.Prifysgol Bangor Ciencia Ciencias Sociales Higiene y Vida Saludable
Episodios
  • Meddwl am Iechyd Meddwl
    Feb 20 2024
    Meddwl am Iechyd Meddwl: Sgwrs am Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.

    Croeso i bodlediad ‘Am Waith Cymdeithasol’ ac i’r rifyn olaf o’r rhaglen arbennig o 4 podlediad a ariannir gan Gronfa Cydweithio Cymunedol Prifysgol Bangor.

    Prif ffocws y podlediadau yma ydi cydweithio gydag asiantaethau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u waith pwysig yn ymateb i heriau cymdeithasol o fewn ein cymdeithas ni.

    Yn y podlediad yma, mae Gwenan Prysor (Cyfarwyddwr y cwrs MA Gwaith Cymdeithasol) ag Aled Griffiths (Ymarferydd GIMPPhI/ Seicotherapydd Achrededig) yn trafod y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.

    Yn ystod y drafodaeth fyddech yn clywed am y pwysigrwydd o ddeall y gwahaniaeth rhwng straen meddyliol a salwch meddyliol, yn ogystal â mathau gwahanol o gefnogaeth sydd ar gael.

    Fyddech hefyd yn clywed am ddylanwadau gwahanol ar iechyd meddwl yn cynnwys cymdeithas, COVID 19 a thrawma.
    Más Menos
    50 m
  • Gwasanaethau GISDA: Y pwysigrwydd o gydweithio hefo, cefnogi a grymuso pobl ifanc
    Dec 7 2023
    Croeso i bodlediad ‘Am Waith Cymdeithasol’ ac i’r ail bennod yn y gyfres arbennig o 4 podlediad a ariannir gan Gronfa Cydweithio Cymunedol Prifysgol Bangor.

    Prif ffocws y podlediadau yma ydi cydweithio gydag asiantaethau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u waith pwysig yn ymateb i heriau cymdeithasol o fewn ein cymdeithas ni.

    Yn y rhifyn yma mae Reece Moss, Vex Ellis, Sian Tomos a Sharon Thomas o GISDA yn ymuno hefo Wendy Roberts i drafod y pwysigrwydd o gael gwasanaeth GISDA yng Ngwynedd.

    Fyddech yn clywed am sut mae staff GISDA yn cydweithio hefo pobl ifanc, i hybu eu datblygiad a’u hyder, ac i sicrhau fod eu llais yn cael eu clywed.

    Hefyd, fyddech yn clywed am rhai o’r heriau mwyaf i bobl ifanc ar hyn o bryd, a phwysigrwydd gwerthoedd megis trin pawb hefo parch a pheidio barnu unigolion.
    Más Menos
    44 m
  • Gwasanaethau ‘Gorwel’: Y Pwysigrwydd i’n Cymunedau a Chymdeithas
    Nov 9 2023
    Croeso i bodlediad ‘Am Waith Cymdeithasol’ ac i’r rhifyn gyntaf o’r rhaglen arbennig o 4 podlediad a ariannir gan Gronfa Gymunedol Prifysgol Bangor.

    Prif ffocws y podlediadau yma ydi cydweithio gydag asiantaethau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u waith pwysig yn ymateb i heriau cymdeithasol o fewn ein cymdeithas ni.

    Yn y rhifyn yma mae Osian Elis yn ymuno hefo Wendy Roberts i drafod yr asiantaeth ‘Gorwel’ a’r gwasanaethau gwahanol sydd yn bodoli o fewn yr asiantaeth yma.

    Fyddech yn clywed am sut mae Gorwel yn mynd ati i ymateb i anghenion o fewn y gymuned, gyda ffocws ar elfennau gwahanol megis cyd weithio, meddwl tu allan i’r bocs a hybu llesiant staff.
    Más Menos
    41 m
Todavía no hay opiniones