Episodios

  • Y Panel Chwaraeon - Pêl-droed; Ralio; Rygbi ac Athletau
    Oct 6 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Rhiannon Sim, Dyfed Cynan a'r gohebydd Dylan Griffiths yn trafod gemau nesaf tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Lloegr a Gwlad Belg; Ail i Ioan Lloyd a'i gyd-yrrwr Sion Williams ym Mhencampwriaeth Rali Iau Ewrop; Gemau'r Pencampwriaeth Rygbi Unedig; Anaf i Louis Rees-Zammit a phwy gaiff eu dewis yng ngemau prawf Cyfres yr Hydref; Campau yn esblygu er mwyn denu mwy o gefnogwyr ifanc; Posteri, baneri a sloganau chwaraeon sy'n aros yn y cof.

    Más Menos
    15 m
  • Y Panel Chwaraeon - Snwcer, Pêl-droed, Tenis, Pêl-rwyd a Rygbi
    Oct 3 2025

    Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Ffion Eluned Owen, Geraint Cynan a'r gohebydd Carl Roberts yn trafod sianel newydd yn arbennig ar gyfer gwylio snwcer; gemau nesaf pêl-droed Cymru yn erbyn Lloegr a Gwlad Belg; Pris tocynnau drud a thymheredd uchel Cwpan y Byd; Sylwadau beirniadol Wayne Rooney am amddiffynwyr pêl-droed; Roger Federer yn gweld bai am ddefnyddio cyrtiau tenis arafach; Penderfyniad tîm Pêl-rwyd Dreigiau Caerdydd i newid enw; a'r dyfalu'n parhau am ddyfodol rhanbarthau rygbi Cymru.

    Más Menos
    15 m
  • Y Panel Chwaraeon - Golff a Rygbi
    Sep 29 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Llinos Lee, Billy McBryde a'r gohebydd Cennydd Davies yn trafod buddugoliaeth yr Ewropeaid yng ngystadleuaeth Cwpan Ryder; Dyfodol rhanbarthau rygbi Cymru; Llwyddiant Meg Jones gyda'r Rhosys Cochion, ond yn codi cwestiwn am gadw talent rygbi merched yng Nghymru; Sêr o'r byd chwaraeon yn wynebu ei gilydd yn y cylch bocsio.

    Más Menos
    16 m
  • Y Panel Chwaraeon - Rygbi, Pêl-droed, Rhwyfo a Golff
    Sep 26 2025

    Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Elin Lloyd Griffiths, Kath Morgan a'r gohebydd chwaraeon Heledd Anna yn trafod Ymgynghoriad Cyhoeddus Undeb Rygbi Cymru a'r effaith mae'r holl ansicrwydd yn gael ar y chwaraewyr; Rownd derfynol Cwpan Rygbi y Byd y merched; Sut bydd Liam Williams yn setlo gyda'i glwb newydd, y Newcastle Red Bulls?; Be sydd angen i Mo Salah wneud i ennill gwobr y Ballon d'Or? Llwyddiant y rhwyfwr Cedol Dafydd ym Mhencampwriaethau Rhwyfo y Byd yn Shanghai; A'r diddordeb eleni yng nghystadleuaeth golff y Cwpan Ryder.

    Más Menos
    15 m
  • Y Panel Chwaraeon - Rygbi, Athletau, Criced a Golff
    Sep 22 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Lili Mai Jones, Owain Gwynedd a'r gohebydd chwaraeon Dafydd Pritchard yn trafod Matt Sherratt yn gadael Caerdydd i ymuo â thim hyfforddi Cymru; ymgyrch siomedig i Brydain ym Mhencampwriaeth Athletau'r Byd; Llongyfarch Clwb Criced Morgannwg am sicrhau dyrchafiad; Wrth edrych mlaen i Gwpan Ryder, faint o ysgogiad ydi hi bod America wedi dewis talu chwaraewyr?

    Más Menos
    15 m
  • Y Panel Chwaraeon - Athletau, Hoci Iâ, Rhwyfo a Phêl-droed
    Sep 19 2025

    Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Angharad Mair, Meilyr Emrys a'r gohebydd Dafydd Jones yn trafod Pencampwriaeth Athletau y Byd yn Tokyo; Tymor newydd tîm hoci iâ Diawliaid Caerdydd; Hanes rhai o'r Cymry sy'n cael llwyddiant ym myd rhwyfo; ac yw cynnal gemau pêl-droed rhyngwladol yn stadiwm y Principality yn syniad da?

    Más Menos
    15 m
  • Y Panel Chwaraeon - Bocsio; Pêl-droed, Athletau; Criced a Ralio
    Sep 15 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Elain Roberts, Daniel Thomas a'r gohebydd Carl Roberts sy'n trafod Ricky Hatton fu farw'n 46 oed; Darbi bêl-droed Manceinion yn Uwch Gynghair Lloegr a be nesa i Ruben Amorim?; Gwahardd sgarffiau hanner hanner West Ham; Pencampwriaethau Athletau Y Byd; Mantais i ferched sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon tra yn yr ysgol; Cyfnod addawol i Glwb Criced Morgannwg; Y diweddara am Elfyn Evans ym Mhencampwriaeth Ralio Y Byd; a llysenwau mewn chwaraeon.

    Más Menos
    15 m
  • Y Panel Chwaraeon - Ralio, NFL, Pêl-droed a Rygbi
    Sep 12 2025

    Ymunwch gyda Cennydd Davies a'r panelwyr Hana Medi, Cynan Anwyl a'r gohebydd Dylan Griffiths yn trafod Rali Ceredigion; Wythnos gyntaf yr NFL; mae gan gyflogwyr hawl gyfreithiol i wrthod ymgeisydd am swydd os ydynt yn cefnogi tîm pêl-droed cystadleuol i staff presennol y cwmni, yn ôl penderfyniad barnwr; Edrych nol ar gem gyfeillgar Cymru v Canada; Chelsea a'r 74 cyhuddiad yn eu herbyn; Cwpan Rygbi Menywod Y Byd; Danny Wilson yn ddirprwy hyfforddwr i Steve Tandy, hyfforddwr tîm rygbi Cymru; Hynt a helynt Elfyn Evans yn Rali Chile.

    Más Menos
    14 m