Sŵntrack gyda Joe Podcast Por Joe Morgan arte de portada

Sŵntrack gyda Joe

Sŵntrack gyda Joe

De: Joe Morgan
Escúchala gratis

OFERTA POR TIEMPO LIMITADO | Obtén 3 meses por US$0.99 al mes

$14.95/mes despues- se aplican términos.
Yn bob pennod, mae Joe yn cael sgwrs hamddenol gyda artistiaid, DJiaid, cynhyrchwyr a phobl sy’n rhan o’r byd cerddoriaeth Gymraeg. O enwau newydd i wynebau cyfarwydd. Trafodir popeth o ysbrydoliaeth a gigs i ganeuon newydd a'r daith greadigol. Wedi’i greu fel platfform i ddathlu a rhannu miwsig Cymraeg mewn ffordd onest a chroesawgar, mae’r podlediad yn agored i bawb – boed yn siaradwyr Cymraeg rhugl neu’n ddysgwyr brwd.Joe Morgan Música
Episodios
  • Pennod 7 | Nadolig gyda Bronwen Lewis
    Dec 23 2025

    Wrth gloi Season 1 o Sŵntrack, dyma’n arbennig Nadolig gyda Bronwen Lewis! Rydyn ni’n sgwrsio am gerddoriaeth, ei thraddodiadau Nadolig, a chymryd cipolwg y tu ôl i’r llen ar Y Llais. Ffordd gynnes a hwyliog o gloi’r tymor cyntaf - diolch am wrando, a Nadolig Llawen!

    Más Menos
    37 m
  • Pennod 6 | Dawns Rhyngol
    Nov 28 2025

    Penod arbennig o Sŵntrack wedi’i recordio yn fyw o Ddawns Rhyngol yn Aber! Diolch enfawr i UMCA ,yn enwedig Nanw, am fy helpu i wneud hyn ddigwydd ac am drefnu penwythnos mor anhygoel.

    Sgyrsiau cyflym, llawn hwyl gyda’r tri act oedd yn perfformio: Buddug, Maes Parcio, a’r prif sêr Bwncath. Lot o vibes da, tipyn o sŵn cefndir (c’mon, roedd pawb yn dawnsio), a digon o gariad at gerddoriaeth Gymraeg.


    A special Sŵntrack episode recorded live from Dawns Rhyngol in Aber! Huge thank you to UMCA, especially Nanw, for making this possible and for putting on such an amazing weekend.

    Quick, fun chats with all three artists: Buddug, Maes Parcio, and headliners Bwncath. Good vibes, a bit of background noise (because everyone was dancing), and plenty of love for Welsh music.

    Más Menos
    29 m
  • Pennod 5 | Ellis Lloyd Jones a Mel Owen
    Nov 7 2025

    Yn y bennod ‘ma, mae’n chaotic mewn ffordd hyfryd! Mae Ellis Lloyd Jones a Mel Owen yn ymuno i sgwrsio am bopeth o dyfu i fyny’n siarad Cymraeg, i sut maen nhw’n defnyddio’r iaith yn eu bywydau creadigol - boed hynny ar lwyfan, ar-lein neu ar y radio.

    Wrth gwrs, mae pethau’n mynd ar drywydd Drag Race UK Season 7, mae ambell gân wych yn cael ei argymell, a digonedd o chwerthin ar hyd y ffordd.

    Más Menos
    42 m
Todavía no hay opiniones