
Cwsg
No se pudo agregar al carrito
Add to Cart failed.
Error al Agregar a Lista de Deseos.
Error al eliminar de la lista de deseos.
Error al añadir a tu biblioteca
Error al seguir el podcast
Error al dejar de seguir el podcast
-
Narrado por:
-
De:
Croeso i bedwaredd bennod podlediad newydd Mam, Dad a Magu.
'Da ni yma i siarad am blant a bob dim sydd yn dod gyda magu nhw. A sut well i sôn am y stwff 'ma na dros banad a sgwrs!
Os da chi'n Fam, Tad, Gofalwr, Taid, Nain, Anti, Brawd neu pwy bynnag! Os oes 'na rywbeth 'da chi angen siarad efo rhywun, plîs gyrrwch neges draw i dîm Teulu Gwynedd trwy'r e-bost yma: teulugwynedd@gwynedd.llyw.cymru
Diolch am ymuno â ni, gwnewch banad, a dewch am sgwrs.
Cyflwynydd: Mari Elen
Cynhyrchydd: Eirian Daniels Williams
Cynhyrchydd cyfres, cyfarwyddwr a golygydd: Dïon Wyn
--
Pennod 4 | Cwsg
Yn y bennod yma mae Mari ac Yws Gwynedd (Cerddor a thad), yn rhannu eu profiadau personol i ymwneud â chwsg ac yn sgwrsio efo Rhian Mills ( Hyfforddwraig Cysgu) am y cymorth sydd ar gael a tips ar sut i wella cwsg ar gyfer plant a’u rhieni /gwarchodwyr.
Gwestai: Yws Gwynedd - Cerddôr
Rhian Mills - Hyfforddwraig Cysgu
--
Amserlen:
00:00 - Intro
00:59 - Pa mor bwysig yw cwsg?
09:40 - Pryd mae 'routine' yn bwysig?
13:38 - Effaith sŵn a cherddoriaeth
22:17 - Effaith defnyddio sgrîns
25:27 - Atchweliadau cwsg (regressions)
30:28 - Systemau cymorth
35:27 - Outro
Adnoddau:
https://www.dewis.cymru/
https://www.gwybodaethgofalplant.cymru/home
https://www.llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amser-iddo
https://bipbc.gig.cymru/cyngor-iechyd/dechrau-gorau
https://bipab.gig.cymru/ysbytai/a-y-o-wasanaethau/gwasanaeth-rheoli-symptomau/cysgu-ar-gyfer-rhieni-gofalwyr-ac-oedolion-dibynadwy/
https://www.restedmama.co.uk/