Episodios

  • 39 - Meilir y life guard, eirin tagu a date-io
    Aug 21 2025

    Mae'r haf bron a gorffen ond mae yna lwyth o straeon i'w rhannu cyn i'r dail ddechrau disgyn. Trip Aberdaron, pyllau padlo epig, hanesion date-io a Meilir yn achub bywyd rhywun. That's right - da chi wedi darllen yn gywir. Dewch i glywed yr hanesion!

    Más Menos
    1 h y 28 m
  • 38 - Goss y maes, Karens a Bethans a Steddfod blŵs
    Aug 14 2025

    Wel, mae'r Eisteddfod wedi cyrraedd a phasio bellach a dydi Meilir heb gael cyfle i ddadbacio ei ddillad cyn bod rhaid dadbacio holl ddigwyddiadau'r wythnos o amgylch y maes a rownd y byd. Pwy oedd y snogio wrth y portaloos? FAINT oedd pris taten drwy'i chroen? Pwy oedd yn Maes B? Dewch i mewn i wrando!

    Más Menos
    1 h y 37 m
  • 37 - Eisteddfod! Yn yr Eisteddfod, ieee!
    Jul 31 2025

    Wrth i Mari a Meilir baratoi i ymweld ag Eisteddfod Wrecsam mewn ychydig ddyddiau, mae 'na lwyth o geisiadau i drafod y ffordd orau i fwynhau a goroesi wythnos yn yr Ŵyl. Mewn â chi i'r siop i ymuno yn y sgwrs, gloi!

    Más Menos
    1 h y 31 m
  • 36 - Portaloos, cysgu efo ffrind i ex a delwedd cyrff
    Jul 17 2025

    Mae hi'n un hir ond mae hi'n un dda... Er nad oes gan Mari a Meilir lawer i'w drafod am eu hwythnosau eu hunain, mae ganddyn nhw DDIGON i'w ddweud wrth ymateb i'r llu o geisiadau a'r cyfaddefiadau sydd wedi cyrraedd y blwch yr wythnos hon. Gwrandewch a gadwch i ni wybod beth yw eich barn chi hefyd!

    Más Menos
    1 h y 44 m
  • 35 - Swistir, Jurassic World a papur toilet
    Jul 10 2025

    "Ry ni yma o hyyyyd!" Mae Cymru nol yn yr Ewros a mae Mari a Meilir nol yn y siop! Gobeithio i chi fwynhau'r wythnos o hoe gawsom ni. Fe lenwoch chi ein blwch ni, yn union fel wnaethom ni ofyn, ac mae yna dipyn o geisiadau i'w trafod felly dewch i mewn i'r siop ar frys.

    Más Menos
    1 h y 28 m
  • 34 - Alban Hefin, Pride Cymru a llond blwch o geisiadau!
    Jun 26 2025

    Wel, da chi di bod yn brysur efo'ch ceisiadau yr wythnos hon. Ond cyn i Mari a Meilir fynd i dyrchu, mae 'na ddigon o amser i drafod digwyddiadau Pride Cymru, hirddydd haf, bingo Llanuwchllyn a dillad Beyoncé! Mewn â chi, mae'r siop ar agor.

    Más Menos
    1 h y 36 m
  • 33 - Pisco sours, Cotswolds a'r 'closet'
    Jun 19 2025

    Mae Mari yn ôl o'i phenwythnos yn y Cotswolds ac mae 'fake tan' Meilir yn datblygu yn eithriadol o gyflym ac oren. Ddim yn gwneud synnwyr? Wel, pwyswch play a gwrandewch te. Mae'r siop ar agor!

    Más Menos
    1 h y 15 m
  • 32 - Y Wicked Trailer, y Tony's a canon Amwythig
    Jun 12 2025

    Yn dilyn newid yn amserlen Mari a Meilir, cafodd y bennod hon ei recordio ben bore...felly does wybod sut siap fydd ar y ddau na'r siop. O'r Tony's i Wicked i Ar Led, mae yna ddigon i ddeffro'r ddau felly i mewn â chi i'r Siop!

    Más Menos
    1 h y 16 m